Press and Critics


A near contemporary of fellow north-Walian Gareth Glyn, Dafydd Bullock has achieved similar fame both on his native turf and beyond.  Today based primarily in Luxembourg, his compositions nevertheless often hark back to his years in Wales (born in Llanberis, Bullock is also a member of the Gorsedd of Bards): most prominently in the orchestral cycle Fy Ngwlad and its nationally-inflected movement titles that include ‘Dolbadarn’ and ‘Owain Glyndŵr’.  It is testimony to his international appeal, however, that some of the most passionate advocacy for his work comes not only from the musicians of Wales but those of the Czech Republic, many of whom have contributed to his very extensive discography.  Furthermore, amongst the most recent of his recordings is a work inspired by the turn-of-the-century emigration of many Welsh people to Patagonia in Argentina and performed by guitarists of both nations.  His (to date) eleven symphonies bear comparison with the thirteen of Daniel Jones as a feat of compositional achievement; whilst his string quartets, also eleven in number and with more surely to follow, may yet surpass the great British cycles of Robert Simpson and Elizabeth Maconchy.

(c) Graeme Cotterill 2012 (Ensemble Cymru Programme Note for concert series ‘Fachwen’ 2012)



Gollwng y cyfan pan fydd yr awen yn digwydd galw

15 11 2006

Tudur H. Jones, Yr Herald Cymraeg


Beth yw'r cysylltiad rhwng y Beatles a Beethoven? Pwy yw'r actores Hollywood sy'n perthyn iddo? Pam na fydd o'n sgwennu nawfed symffoni? Dim ond rhai o'r cyfrinachau a ddatgelwyd gan y cyfansoddwr rhyngwladol, Dafydd Bullock, wrth sgwrsio â Tudur Huws Jones.


Roedd hi'n droëdigaeth o fath, ond yn wahanol i Paul ar y ffordd i Ddamascus, y radio oedd yn gyfrifol am droi meddwl Dafydd Bullock. Fel cyfansoddwr ac arweinydd o fri rhyngwladol, mae ei waith yn cael ei berfformio yn rhai o ganolfannau enwoca'r byd ers blynyddoedd bellach, ac yn y pythefnos dwytha roedd ei gerddoriaeth i'w glywed mewn llefydd mor wahanol â Sao Paulo, Brasil, a'r Tabernacl ym Machynlleth, lle cafodd ei Sonata i glarinet a phiano ei phremière. Yn ddiweddar mae Dafydd wedi bod yn hel achau'r teulu, ac nid yw'n syndod o gwbl fod miwsig yn amlwg iawn yng ngwaed ei gyn-deidiau. Mae ei chwaer, Susan, yn soprano o safon byd-eang, ac roedd ei nain yn gantores enwog yma yng Nghymru yn ei dydd. Ond daeth hefyd o hyd i gysylltiad teuluol gydag un o sêr Hollywood.


"Roedd fy nain yn gantores dda iawn," meddai Dafydd, a aned ar stad tai cyngor Maes Padarn yn Llanberis. "Roedd hi'n adnabyddus fel Llinos Peris, ond Emily Williams oedd ei henw iawn, ac ymhlith nifer o lwyddiannau, fe enillodd hi'r Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. "Roedd fy hen daid yn arwain Seindorf Arian Llanberis, ac mae'r teulu'n mynd yn ôl yn bell iawn yn yr ardal - yn ffermwyr a chwarelwyr gan fwyaf." Daeth o hyd i un cysylltiad teuluol annisgwyl hefyd, oherwydd mae'r actores Hollywood, Sandra Bullock, yn perthyn iddo. "Mae hi'n drydydd cyfnither i mi. Ond cefnder arall i mi yn Minneapolis sydd wedi gwneud y cysylltiad â hi. Doeddwn i'n gwybod dim cyn hynny, ond mae'n anhygoel a dweud y gwir," meddai.


Mae Dafydd yn briod ag Ulrike - athrawes gerdd o'r Almaen, ac mae'r ddau yn byw yn Luxembourg, er yn treulio rhannau helaeth o'r flwyddyn yn ardal Llanberis. Mae'n gyd-ddigwyddiad rhyfeddol mai Almaenes a chantores opera oedd Helge, mam Sandra Bullock, tra roedd ei thad, John, yn hyfforddi cantorion, felly mae'r cysylltiad cerddorol yn amlygu ei hun ar yr ochr yna o'r teulu hefyd. A dydi'r cyd-ddigwyddiadau ddim yn stopio yn fan'na chwaith. Enw ei ffilm ddiweddaraf, lle mae'n ymddangos gyda Keanu Reeves, yw "The Lake House", ac enw t Dafydd, sy'n edrych dros Lyn Padarn, yw "Swn y Llyn".


Ond nid oedd ei rieni ef yn gerddorol o gwbl, meddai. "Aelodau o'r heddlu oeddan nhw, felly mae'n rhaid fod cerddoriaeth wedi neidio cenhedlaeth." Symudodd y teulu i Fanceinion pan oedd yn blentyn ifanc, ond dychwelodd i Lanberis pan oedd tua 11 oed, a dyna pryd y dysgodd Gymraeg. "Roedd nain yn sâl iawn ar y pryd, ac fe ddaethon ni yma i fyw am tua blwyddyn, ac mi ddysgais Gymraeg yn Ysgol Dolbadarn."


Yn ogystal â'i ddawn gerddorol, mae'n amlwg fod ganddo ddawn i ddysgu ieithoedd hefyd, oherwydd yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae'n siarad Almaeneg a Ffrangeg yn rhugl, ac mae'n medru Rwsieg a Tsiec yn weddol, ac yn gallu cynnal sgwrs mewn Is-Almaeneg, a Sbaeneg.


Wrth chwilio am y Beatles ar y radio y daeth y foment a newidiodd ei fywyd. "Fel llawer o blant oedd yn tyfu i fyny yn y 1960au, roeddwn i wrth fy modd efo'r Beatles. Roeddwn i'n chwilio ar y radio i drio clywed un o'i caneuon, pan ddois i ar draws Beethoven. Roedd hi fel y Ffordd i Ddamascus i mi, ac roeddwn i'n gwybod o'r eiliad honno - yn 14 oed - mai dyna oeddwn i isio'i wneud - bod yn gyfansoddwr."


Graddiodd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion a choleg cerdd y Royal Northern, yn y 1970au, ac ym 1983, cafodd swydd cyfarwyddwr cerdd yr Ysgol Ewropeaidd yn ninas Luxembourg, lle mae'n dal i fyw a gweithio.


"Dwi'n dod yn ôl i Gymru yn aml - bob chwe wythnos neu rhywbeth felly, ac rydan ni'n treulio pob haf yma. Mae'n ysbrydoliaeth, ac yn gyfle i weld ffrindiau a chadw cysylltiad, mynd i gerdded mynyddoedd a thraethau, cael peint bach, a siarad Cymraeg. Does 'na neb yn siarad Cymraeg yn Luxembourg, hyd y gwn i. Mae'n haws erbyn hyn achos dwi'n gallu cael Pobl y Cwm bob nos ar deledu lloeren!"


Dros y blynyddoedd mae wedi magu perthynas glos gyda cherddorion ym Mhrâg, a thrwy Gerddorfa Philharmonig y Weriniaeth Tsiec, mae ei waith wedi dod i sylw byd-eang. "Fe aethon nhw ar daith drwy'r byd ychydig flynyddoedd yn ôl, efo fy ngherddoriaeth i, ac felly mae wedi dod i sylw gwledydd fel China, Siapan, Korea, Brasil a'r Unol Daleithiau."


Mae Cymru a'r Gymraeg hefyd yn cael sylw yn ei sgîl, oherwydd mae llawer o'i ddarnau'n dwyn enwau o hanes neu lenyddiaeth Cymru, er enghraifft ei gylch o gerddi symffonig sy'n dwyn y teitlau: Meinir, Cilmeri, Dolbadarn, Y Chwarel, ac Owain Glyndwr.


Er ei fod yn gallu chwarae piano, clarinet, cello a thrombôn, fel arweinydd a chyfansoddwr y mae'n ystyried ei hun. Ac er ei fod yn cael pleser o glywed ei waith yn cael ei berfformio, nid oes dim yn cymharu â'r wefr o ysgrifennu, meddai.


"Mae'n "ego-trip" mawr cael eich gwaith wedi'i berfformio, ond 'does dim yn fwy pwysig na sgwennu. Dwi'n casáu'r broses pan mae'n dechrau, oherwydd mae syniadau'n dod ar adegau annisgwyl ac anghyfleus... pan dwi'n mynd am dro neu rywbeth. Dwi'n gallu'i adnabod o y munud mae'n dechrau erbyn hyn, mae gen i ddigon o brofiad ohono, ac mae'n rhaid mynd yn ôl a sgwennu'r syniad i lawr. Nid y byddwn wedi ei anghofio - mae'n aros yn y cof - ond mae o fel rhywbeth yn cosi neu bigo. Mae'n annioddefol ac mae'n rhaid i mi gael gwared arno. Roeddwn i'n cerdded ar y traeth yn Ninas Dinlle ychydig yn ôl, a dyma'r awen yn cyrraedd. 'O na! Yn ôl, yn ôl! Ac mi ddois i'n ôl adref a sgwennu pedwarawd llinynnol!"


Ychydig wythnosau'n ôl cyhoeddwyd CD, lle roedd Dafydd wedi cyd-weithio â hen gyfaill o Lanberis - Elwyn Wilson Jones, neu Elwyn Hogia'r Wyddfa - ar gasgliad o ganeuon ysbrydol, negro spirituals.


"Ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar brosiect arall gyda Cherddorfa Philharmonig y Weriniaeth Tsiec, ond fedra i ddim dweud mwy am hwnnw am y tro!"


Mae'n debyg mai'r symffoni ydi'r datganiad mwyaf y mae'n bosib i unrhyw gyfansoddwr ei wneud. Mae'n ffordd o gyfleu syniadau cryf, yn ôl Dafydd, ac mae o eisoes wedi ysgrifennu wyth ohonyn nhw.


"Mi fyddai'n stopio yn fan'no, achos dwi ddim isio sgwennu nawfed symffoni. Pam? Wel, mae pawb yn marw ar ôl sgwennu eu nawfed symffoni - Dvorák, Mahler, Bruckner, Schubert... a Beethoven hefyd wrth gwrs."


Ymhlith ei gyfansoddiadau, mae Dafydd Bullock wedi ysgrifennu wyth symffoni, cylch o bum cerdd symffonig, dwy opera, Offeren dros y Meirw, dau osodiad ar gyfer Offeren, oratorio, naw pedwarawd llinynnol a cherddoriaeth siambr arall a nifer o ganeuon a darnau piano.


Cyfansoddodd y sgôr ar gyfer dwy ffilm, yng Nghanada a Ffrainc. Hyd yma y mae wedi gwneud 22 o gryno-ddisgiau.


Mae melltith y Nawfed Symffoni'n ofergoel gyffredin ymhlith cyfansoddwyr. Ar wahân i'r rhai a enwyd gan Dafydd, mae Kurt Atterberg, Alfred Schnittke, Roger Sessions, Ralph Vaughan Williams, Egon Wellesz a Malcolm Arnold yn cael eu dyfynnu'n aml fel esiamplau o "Felltith y Nawfed Symffoni". Ysgrifennodd Alexander Glazunov y symudiad cyntaf i'w nawfed symffoni ef, ond wnaeth o ddim gorffen y gwaith - er iddo fyw am 26 mlynedd ar ôl ei ddechrau!



Clywed y llais unigryw ei hun am y tro cyntaf

6 9 2006

Tudur H. Jones, Yr Herald Cymraeg


Wedi dros 40 mlynedd fel aelod o un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru erioed, mae Elwyn Wilson Jones newydd gyhoeddi ei albwm unigol gyntaf. GOLEUODD y golau coch i ddynodi bod y tâp yn troi a'r recordio ar fin cychwyn. Ond edrych o'i gwmpas wnaeth Elwyn Wilson Jones, a theimlo'n chwithig mai dim ond fo oedd yn y stiwdio'r tro hwn. Doedd y ddau fu'n cadw cwmni iddo ar 24 o recordiau dros gyfnod o 44 o flynyddoedd, ddim yn sefyll wrth ei ochr heddiw.


Ond ar ôl cofio na fyddai Arwel a Myrddin - ei gyd-aelodau yn Hogia'r Wyddfa, heb sôn am Viv y gitarydd - efo fo y tro yma, setlodd Elwyn i lawr at y gwaith o'i flaen. Wedi'r cwbl, roedd hon wedi bod yn uchelgais ganddo erioed, er nad oedd yn credu y byddai'n gweld ei gwireddu byth. Tra'n aros gyda chyfaill iddo yn Luxembourg y llynedd y dechreuwyd meddwl o ddifri am wneud record unigol - heb Hogia'r Wyddfa.


Yn allweddol, mae'r cyfaill hwnnw - Dafydd Bullock - yn gyfansoddwr ac yn gerddor o fri rhyngwladol, ac er yn byw yn ar y cyfandir ers blynyddoedd, mae ei wreiddiau a'i galon yn dal yn nwfn yn naear Llanberis - y pentref a fagodd Hogia'r Wyddfa wrth gwrs. "Roeddan ni wedi bod o gwmpas marchnadoedd yr Almaen a hyn a'r llall, ond eistedd yng nghartref Dafydd yn gwneud fawr ddim oeddan ni un p'nawn, pan dechreuodd o chwarae "Summertime" ar y piano," meddai Elwyn. "Mi drodd y sgwrs at ganeuon ysbrydol - y Spirituals - ac mi ddywedais fod gen i ddiddordeb mawr yn y math yna o ganu. O dipyn i beth mi wnaethon ni sôn am wneud cd, ac erbyn diwedd y noson roedd y syniad wedi cydio, a'r paratoadau wedi cychwyn."


Trefniannau newydd Dafydd o ffefrynnau megis "Michael Row the Boat Ashore", "Dos Dywed ar y Mynydd" ac yn y blaen sydd ar y cd, ynghyd â chaneuon llai adnabyddus. Rhyddhawyd y cd - "Elwyn - Caneuon ysbrydol" nos Sadwrn, mewn cyngerdd bythgofiadwy yn Llanbêr, gyda llu o artistiaid eraill a chyfeillion.


Ond pam y diddordeb mewn caneuon ysbrydol?

"Mae'r diddordeb yn y math yma o ganu gen i ers pan oeddwn i'n blentyn ifanc - ers dyddiau ysgol am wn i. Roedd criw ohonan ni hogia o'r pentref yn arfer cerdded i Nant Peris bob nos Wener, a rhyw ganeuon felly fyddan ni'n ganu ar y ffordd. Dim gymaint caneuon ysbrydol, ond roedd 'na un gân arbennig, sef "We Shall not Moved" neu "Ni Symudwn ni", gan y Seekers, ac roeddan ni'n canu honno ar y ffordd. Doedd 'na ddim sôn am Hogia'r Wyddfa yr adeg honno, ond roedd Arwel a Myrddin yn rhan o'r criw yma.


"O fan'no y dechreuodd y diddordeb o bosib, ond yn ddiweddarach mi ges i afael ar recordiau pobl fel Paul Robeson, a Mahalia Jackson, ac yn fwy diweddar Sir Willard White, ac mae'r tri yn arwyr i mi."

Bu Paul Robeson yng Nghymru ym 1940, yn gwneud y ffilm "The Proud Valley", ac yn y ffilm mae'n canu'r gân ysbrydol "Deep River" - sydd hefyd ar albwm Elwyn.


"Roedd ganddo fo feddwl y byd o'r coliars. Roedd o'n gweld be oeddan nhw'n mynd drwyddo fo - y caledi a'r tlodi."


Ar ôl gadael ysgol yn 15 oed, aeth Elwyn, fel ei dad o'i flaen, i weithio yn Chwarel Dinorwig. Ac mae'n gweld tebygrwydd rhwng sefyllfa gweithwyr pyllau glo'r de, a chwarelwyr y gogledd. "Doedd 'na ddim gwaith arall o gwmpas. Ychydig iawn o arian oedd bryd hynny i yrru plant trwy goleg, felly roedd llawer o'r hogiau'n mynd i'r chwarel. Does 'na ddim cysylltiad uniongyrchol rhwng sefyllfa'r chwarelwyr a'r bobl dduon, ond mae 'na rywbeth yn y cefndir hefyd, yn y ffordd yr oedd pobl yn cael eu trin. Er enghraifft efo'r llwch chwarel. Am flynyddoedd doedd yr awdurdodau ddim yn cydnabod bod y llwch yn gwneud drwg i chi. Roedd 'na ddoctor yn chwarel y Penrhyn hyd yn oed yn dweud fod llwch yn llesol i chi!"


Roedd cysylltiad hanesyddol arall rhyngddynt, oherwydd roedd Richard Pennant, a ddaeth yn Arglwydd Penrhyn yn ddiweddarach, yn "berchen" ar 600 o gaethweision yn Jamaica.


"Ffordd y bobl dduon o fynegi eu hofn ac yn y blaen oedd y caneuon ysbrydol yma. Pobl wedi cael eu hel yn erbyn eu hewyllys o Affrica i'r America a llefydd eraill oeddan nhw, a chael eu gorfodi i weithio yn y "plantations" ac ati, a'r ofn oedd yn perthyn iddyn nhw oherwydd hynny. Faswn i ddim yn dweud fod y chwarelwyr na'r coliars yn gorfod gweithio yn erbyn eu hewyllys - dim dewis oedd ganddyn nhw - ond roeddan nhw wedi dioddef yn arw iawn serch hynny. Ond mae 'na lawenydd mawr yn y caneuon yma hefyd," medd Elwyn. Dwi ddim yn meddwl fod crefydd i fod yn drist beth bynnag - rhywbeth i'w fwynhau ddyla fo fod."


Pan gaeodd Chwarel Dinorwig yn 1969, bu Elwyn yn gweithio mewn ffatri ym Mangor am flynyddoedd. Ond ym 1972 sefydlodd ei dad - Hugh Richard Jones - amgueddfa am y diwydiant llechi yng ngweithdai'r chwarel, gyda chymorth Cyngor Gwynedd, a daeth cyfle i Elwyn ddychwelyd i weithio yn yr union weithdy lle dechreuodd ei yrfa. Derbyniodd ei dad yr MBE am ei waith, ac mae'r amgueddfa bellach yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol.


Ar wal ei gartref - yn llythrennol wrth droed yr Wyddfa - mae disg aur sy'n cynrychioli dros 40 mlynedd o'i fywyd, sef ei aelodaeth o'r sefydliad hwnnw a yw Hogia'r Wyddfa. Dechreuodd y cyfan yng Nghapel Preswylfa, Llanberis, lle roedd Arwel hefyd yn mynd. Roedd rhai o'r aelodau wedi ffurfio wythawd, a oedd yn cynnwys Elwyn ac Arwel. A'r wythawd hwnnw oedd y sylfaen mewn ffordd.


"Yn Koblenz yn yr Almaen y dechreuodd Hogia'r Wyddfa mewn gwirionedd. Mynd efo trip wnaethon ni - criw ohonan ni. Un noson dyma fynd i un o'r Weingartens yma, ac roedd 'na tua 3,000 o bobl yno, a band ar y llwyfan. Dyma un ohonan ni'n holi os oedd 'na siawns i ni gael rhoi cân Gymraeg. Dyma bump ohonan ni i fyny - dau ffrind Dafydd a Tudur, ac Arwel, Myrddin a finna. Dyma ni'n canu Bugail Aberdyfi, ar rhyw diwn yr oeddwn i wedi ei gwneud. Beth bynnag ar ôl canu dyma'r poteli gwin 'ma'n dwad o bob man, a ninnau'n meddwl ein bod ni'n cael gwin am ddim am ganu. Ond gawson ni ail ar ddiwedd y noson pan gyrhaeddodd y bil!"


Ar ôl dod adref, daeth galwadau i ganu yma ac acw yn lleol, cyn cael cynnig ymddangosiad ar gyfres deledu, ac yn fuan iawn wedyn recordiwyd eu record gyntaf. Mae'r gweddill yn rhan fawr o hanes canu poblogaidd Cymru wrth gwrs.


Recordiwyd "Elwyn - Caneuon Ysbrydol" yn stiwdio Aran, Y Groeslon

Tudur Huws Jones



Special premiere for work

Oct 7 2004

by Paul Scott, North Wales Weekly Newspapers series

 

A NEW piece of orchestral music, written in inspirational Snowdonia, will have its glittering world premiere in Prague next month. Gwenllian by Dafydd Bullock was written at Llanberis during one of the Luxembourg-based composer's regular visits to North Wales. Mr Bullock grew up in the village before moving away from the area to pursue his musical career. He works with the International Choir in Luxembourg and the New Basement Orchestra, both of which he helped to found. But now he will travel to the Czech Republic where the Czech Philharmonic Orchestra will perform Gwenllian.


This latest piece was inspired by his roots and he remains very proud of where he comes from. He said: "My Welsh roots and identity are crucially important to me. I still have a house in the area. Being honoured by the Gorsedd in 1995 was a high point in my life and career. I was born in Llanberis, and was one time at Ysgol Dolbadarn in the early 1960s. My family are all gone now, with the exception of my grandmother's cousin, Maria Pritchard, who was 93 in September. My grandfather was especially well known locally, Ben Jones, or "Ben Roderick", for many years a driver for Snowdon Mountain Railway. My great-grandfather was an official at Dinorwic Quarry, a trumpeter, conductor and adjudicator. His name was Roderick Williams. My grandmother, Emily Jones, of Maes Padarn, born in Vaynol Cottages, was a renowned singer and Eisteddfod winner, with the name Llinos Peris. My sister is the world famous opera singer Susan Bullock, who has performed throughout the world, from America to Japan, Russia to Australia. So the background is quite musical, I'd say."


Mr Bullock, who has released 19 CDs and travelled the world with his music, said the invitation to the premiere came as a surprise. He said: "The invitation by the Czech Philharmonic came entirely out of the blue, through a cellist friend of mine with whom I have recorded a lot of music. Gwenllian was written in Llanberis during last year's rainy summer, posted off and forgotten about. The next I heard was the news that a CD would arrive in the post. It did and I was invited to Prague for the world premiere, which will be in the Dvorak Hall at Prague's Rudolfinum. Then the piece will be played throughout the Far East and, in particular, Japan and China, just after Christmas. There will be a reception, and a small presentation on the stage at the end of the concert. At the moment I'm memorising a short speech in Czech. It's harder than writing the music."



Composer writes requiem in memory of martyr who burned himself alive in freedom fight protest


Jan 7 2009 

by Eryl Crump, Liverpool Daily Post



A GWYNEDD composer has written a requiem for the Foreign Ministry of the Czech Republic to mark the 40th Anniversary of the protest-suicide of a student.


Dafydd Bullock was commissioned to write the piece of music in memory of Jan Palach, who burned himself to death in Prague in January 1969, after the Soviet-led invasion.


In addition to the traditional Latin text, Mr Bullock has added lines inscribed on Palach’s monument in the Old Town Square in Prague and some graffiti which appeared, very briefly, on the Wenceslas Monument just after his death.


The world premiere, conducted by the composer, will be given at the beginning of the Czech Presidency of the European Union, in Luxembourg later this month.


Mr Bullock, who lives in Llanberis, said: “This Requiem does not offer visions of sanctity, paradise and redemption. Nor is it a celebration of life, or death.


“By adding to some of the traditional Latin text Jan Hus’s mighty lines the music seeks to confront the horror of a despairing suicide, the smell of petrol and burning flesh and desperation in the face of overwhelming political brutality.


“It has been an honour to write this work, in memory of Jan Palach and of the others who suffered, protested and fought for us all in Prague.”


Mr Bullock is a composer, conductor, arranger and teacher.


His compositions include eight symphonies, a cycle of seven symphonic poems, two operas, two Requiems, two Mass settings, a Missa Brevis, an oratorio, eleven string quartets and other chamber music and many songs and pieces for piano.


He has written scores for two films.


He has won first prizes at the National Eisteddfod of Wales, and in 1995 he was honoured in Wales by admission to the highest Order of the Gorsedd of Bards. He was made a Fellow of the Royal Society of Arts in 2005.





Koncert k úmrtí Jana Palacha v Lucemburku


Dne 29. ledna 2009 byla uspořádána v pořadí třetí lednová akce vztahující se k Janu Palachovi. ZÚ Lucemburk ji kompletně zorganizoval – ve své režii zajistil koncert (Requiem k 40. výročí úmrtí Jana Palacha) v kostele svatého Josefa přilehlé prestižní čtvrti Limpertsberg.


Skladba „Requiem for Jan Palach" je autorskou prací schopného hudebníka a profesora Dafydda Bullocka. Autor pochází z britského Walesu a jeho tvorba obnáší osm symfonií a symfonických básní, dvě opery, dvě requiem a řadu dalších komorních skladeb a písní. Jeho díla byla vydána ve Velké Británii, USA, Belgii a Lucembursku (dosud vydal 23 CD). Za svou práci získal řadu ocenění a vyznamenání. Jak sám říká, má k ČR a Praze speciální vztah – pracoval s Virtuosi di Basso, Twelve Solo Celli a s Českým filharmonickým orchestrem. Velvyslankyně K. Lukešová se s jeho tvorbou seznámila v Lucembursku – při jednom z jeho koncertů. Jeho kvality a zkušenost byly příslibem výborného hudebního zážitku – proto mu byla nabídnuta spolupráce při realizaci hudební akce k výročí J. Palacha. Na nabídku pan Bullock nadšeně reagoval a vyslovil přání složit autorské requiem na Palachovu počest.


Sama akce předčila veškerá očekávání. Kostel o kapacitě 500 míst k sezení byl již před zahájením zcela zaplněn. Mezi posluchači byli pamětníci událostí roku 1968 a 69 a příbuzní aktérů lucemburských událostí reagujících na okupaci a oběť Jana Palacha , jejich přátelé, několik velvyslanců a dalších členů diplomatického sboru, zástupci většiny lucemburských HSP, krajané, pracovníci institucí a představitelé místní veřejnosti.


Na úvod byly na varhany zahrány „Momenti d´organo" Petra Ebena, po nichž následovalo samotné „Requiem for Jan Palach" v podání sboru pod vedením D. Bullocka a opět za doprovodu varhan (Adrien Theato). Text requiem je propojením tradičních latinských textů, anglického znění jednoho z článků „Všeobecné deklarace lidských práv" a Husových „Ktož jsú boží bojovníci". P. Bullock míní, že skladba, napsaná v červenci 2008, nemá „nabídnout vizi svatosti, ráje, nemá být oslavou života či smrti. Hudba se snaží konfrontovat hrůzu zoufalé sebevraždy, pach benzínu a plápolajících plamenů a beznaděj tváří v tvář všeobjímající politické brutality". Diváci hudební prezentaci ocenili dlouhým potleskem.



... from Radio Mozambique ......

Jan Palach Herói da Resistência morreu há 40 anos…


…no "dia em que a luz do futuro foi transportada por um corpo em chamas


Maputo (Canal de Moçambique) - Em Praga, assim como em inúmeras outras capitais, assinala-se este mês a morte, por imolação, do estudante checo, Jan Palach, herói da resistência contra a opressão comunista. Em protesto contra a invasão da Checoslováquia pelo imperialismo soviético em Agosto de 1968, e o regime de terror que veio a ser instaurado no seu país, o jovem estudante transformou o seu corpo num archote humano, ao imolar-se pelo fogo na Praça Wenceslau em Praga. O acto heróico de Jan Palach originou uma onda de solidariedade à escala mundial para com o povo checo, levando intelectuais a render homenagem ao corajoso jovem por meio de peças teatrais, composições musicais, em livros e em poemas. Diversas municipalidades da Europa homenagearam Jan Palach, dando o seu nome a artérias, praças e outros locais públicos. O escritor Milan Kundera imortalizaria, numa das suas obras, o papel de Palach na campanha de resistência à opressão comunista.


A invasão do país soberano, orquestrada pela clique de Brejenev e apoiada por fiéis seguidores do imperialismo soviético, visou esmagar as reformas destinadas a liberalizar a sociedade checa, uma iniciativa do governo de Alexander Dubcek. Os imperialistas sufocavam assim a vontade de todo um povo, à semelhança do que já haviam feito na Hungria em 1956 quando afogaram em sangue os levantamentos de Budapeste.


Há 20 anos, o povo da Checoslováquia recordou Palach com uma série de cerimónias, incluindo a deposição de coroas de flores na Praça Wenceslau onde a 16 de Janeiro de 1969 o jovem estudante imolara-se pelo fogo. As cerimónias, inseridas no âmbito da "Semana Palach" foram reprimidas pelo regime de ditadura comunista instalado em Praga que utilizou bombas de gás lacrimogéneo, descarregando sobre os pacíficos manifestantes e prendendo centenas de pessoas, incluindo o dramaturgo e futuro presidente da Checoslováquia democrática, Václav Havel. A acção repressiva apenas serviu para galvanizar a solidariedade para com o povo oprimido da Checoslováquia. Surgiram de toda a parte vozes de condenação das medidas repressivas, incluindo do destacado dissidente soviético, Andrei Sakharov, e do dramaturgo americano, Arthur Miller.


Documentos divulgados esta semana pelo Centro de Documentação da Checoslováquia, em Praga, e pelo Arquivo de Segurança Nacional, da Universidade de George Washington, nos Estados Unidos, revelam que as manifestações de solidariedade para com Jan Palach ocorridas há 20 anos, assinalaram o princípio da derrocada do regime de ditadura comunista. Os documentos foram extraídos dos arquivos do Partido Comunista Checo e da polícia política do regime então vigente.


Para assinalar o 40° aniversario do passamento de Jan Palach, uma estátua esculpida por Andras Beck, foi transportada da França para a República Checa, tendo sido erigida em Melník, cidade onde o herói da resistência estudara. E o compositor galês, Dafydd Bullock, compôs a peça, "Requiem para Jan Palach", a qual inclui os dizeres que estiveram expostos numa estátua na Praça de Wenceslau logo a seguir à sua morte, até que o regime os apagou e que diziam, "Não sejas indiferente ao dia em que a luz do futuro foi transportada por um corpo em chamas".



Haydnin yhdistämät


Vain Luxemburgin kansainvälisessä ilmapiirissä on mahdollista saada aikaan yhtä monikansallista kokoonpanoa kuin lämpimänä lauantaisena kesäiltana Grundissa. Upeassa, 1700-luvulla rakennetussa St. Jeanin kirkossa Abbaye de Neumunsterissa konsertoivat suomenruotsalainen Borgå Kammarkör, kansainvälinen VOX-kuoro, luxemburgilainen orkesteri Estro Armonico ja neljä solistia lauantaina 13.6.2009. Konsertin johtajana toimi VOX-kuoron perustaja, walesilainen Dafydd Bullock.


Yhteisenä kielenä toimi latina, mutta jäykästä tunnelmasta ei ollut merkkiäkään, vaan kuoroista, solisteista ja orkesterista huokui esiintymisen ilo. Kirkkosali oli lähes täynnä, mikä Luxemburgin kaupungin runsasta kulttuuritarjontaa ajatellen oli todella hyvä merkki. Ohjelmalehtisen hurmaavat tekstit kuvailivat Haydnin musiikkia niin runsassanaisesti, että myös vähemmän aiheeseen perehtynyt konserttivieras sai käsityksen teoksista ja siitä, miten ne sijoittuivat hänen pitkän uransa varrelle. Konsertin alussa kunnioitettiin säveltäjämestarin muistoa hiljaisella hetkellä, sillä hän siirtyi ajasta ikuisuuteen lähes tasan kaksisataa vuotta sitten.


Rakkaus musiikkiin ja vastavuoroiset konserttimatkat yhdistivät Borgå kammarkörin ja VOX-kuoron jäseniä. Tämänkaltainen kulttuuriyhteistyö vaikutti myös kuorolaisten mielestä todella onnistuneelta.



Tillsammans för Haydn


Bara i Luxemburg kan man ha en sådan internationell atmosfär som rådde på en ljuv lördags kväll i Grund. Den 13 juni 2009 i en vacker 1700-tals kyrka, St. Jean, konserterade Borgå kammarkör, den internationella kören VOX, orkestern Estro Armonico och fyra solister. Dirigenten var den walesiske Dafydd Bullock.


Konsertens lingua franca var latin, men stämningen var inte styv utan man kunde se körernas, orkesterns och solisternas glädje i att uppträda. Med hjälp av programblad var det enkelt att förstå mer om musiken och Haydns verk. I början av konserten hedrades 200-årsminnet av den österrikiske kompositörens död med en stunds tystnad. Kyrkan var fylld av folk och det var ärevördig om man tar fasta på att Luxemburg har ett stort kulturellt utbud.


Kärlek för musik och reciproka konsertresor förenade Borgå kammarkörens och VOX-körens medlemmar. Den typen av kultursamarbete verkade vara lyckad enligt deltagarna.  


Canal de Moçambiqu


E o compositor galês, Dafydd Bullock, compôs a peça, "Requiem para Jan Palach", a qual inclui os dizeres que estiveram expostos numa estátua na Praça de Wenceslau logo a seguir à sua morte, até que o regime os apagou e que diziam, "Não sejas indiferente ao dia em que a luz do futuro foi transportada por um corpo em chamas".